Kenneth Zohore yn gadael CPD Caerdydd am West Brom

Ken Zohore Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Zohore un gôl mewn 20 ymddangosiad i’r Adar Gleision y tymor diwethaf

Mae’r ymosodwr Kenneth Zohore wedi gadael Caerdydd ac arwyddo gyda West Bromwich Albion yn y Bencampwriaeth.

Fe sgoriodd Zohore, sy’n 25 oed, un gôl mewn 20 ymddangosiad i’r Adar Gleision yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

Mae disgwyl i West Brom dalu oddeutu £8m am yr ymosodwr o Ddenmarc – sy’n gadael y Brifddinas ar ôl tair blynedd gyda’r clwb.

Cafodd ei arwyddo o glwb KV Kortrijk yn 2016.

Mae’r ymosodwr ifanc, Rhys Healy hefyd wedi gadael y clwb er mwyn ymuno â MK Dons.

Bydd Caerdydd yn dechrau’r tymor newydd y Bencampwriaeth ar 3 Awst gyda gêm oddi cartref yn Wigan.

Source – BBC News